Caerffosiaeth

Gruff Rhys

Composición de: Gruff Rhys
Adeiladau mileniwm, 
Mewn ffug alminiwm, 
Goruwch-ystafelloedd 
Am hanner miliwn o bunnoedd. 
Tyfwn adenydd 
Tra'n yfed 
Ymennydd, 
Mewn tafarndai thema 
A dim golwg o'r 
Wyddfa 
Dw i'n byw a bod 
Dw i'n byw a bod 
Arnofio yn y bae 
Yn y baw a'r dod 
Coffi ewynnol, 
Cyflog derbyniol, 
Argae uffernol, 
Sgidiau ffasiynol, 
Saeri Rhyddion 
Yn rhedeg byrddion, 
Cyhoeddus, anweddus, 
Sefyllfa druenus. 

Dw i'n byw a bod, 
Dw i'n byw a bod, 
Arnofio yn y bae 
Yn y baw a'r dod 
Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth, 
Ymfudwn o amaeth, 
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth, 
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth 
Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod, 
Arnofio yn y bae,
Yn y baw a'r dod
Página 1 / 1

Letras y titulo
Acordes y artista

restablecer los ajustes
OK