Fel Yr Eira

Ceredwen

Continúa después del anuncio

Atgo am yr eiliad cyntaf
I dy weld yn dyfod dros y ddôl
Dy wên yn tynnu at fy nghalon
Yn rhoi ias yn rhedeg drwy fy nghorff
Dy brydferthwch wedi fy nallu
Dy gusannau mor felys a 'r mêl wrth dy flodau
Llawn o gariad oedd fy nheimladau tuag atat bob amser

Dy wedd I mi yn gyfareddol
Dy lais mor swynol ar eos yn canu
O mor hapus oedd fy nheimladau wrth feddwl amdanat

Continúa después del anuncio

Yr ergid poenus mor sydyn
Yn llanw 'n nghorff gan boen
Dy wyneb yn diflannu trwy fy nagrau
Fy nghariad yn toddi fel yr eira
Yn rhoi ias yn rhedeg drwy fy nghorff

Información de la canción

Composición: Ceredwen

¿Los datos están equivocados?

Enviar revisión

Canciones relacionadas