Continúa después del anuncio

    Bûm yn dy garu lawer gwaith
    Do lawer awr mewn mwynder maith
    Bûm yn dy gusanu Lisa gêl
    Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl

    Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd
    Tydi yw'r lanaf yn y byd
    Tydi sy'n peri poen a chri
    A thi sy'n dwyn fy mywyd I

    Pan fyddai'n rhodio gyda'r dydd
    Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd
    Wrth glywed sŵn yr adar mân

    Continúa después del anuncio

    Daw hiraeth mawr am Lisa Lân

    Pan fyddai'n rhodio gyda'r hwyr
    Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr
    Wrth glywed sŵn yr adar mân
    Daw hiraeth mawr am Lisa Lân

    Lisa, a ddoi di I'm danfon I
    I roi fy nghorff mewn daear ddu?
    Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind
    Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd.

    Hiraeth mawr am Lisa Lân
    Hiraeth mawr am Lisa Lân

    Información de la canción

    Composición:

    ¿Los datos están equivocados?

    Enviar revisión